Isaiah 50

Pechod Israel ac ufudd-dod y gwas

1Dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud:

“Ble mae'r dystysgrif ysgariad rois i i'ch mam
pan anfonais hi i ffwrdd?
I bwy oeddwn i mewn dyled
nes gorfod eich gwerthu chi iddyn nhw?
Cawsoch eich gwerthu am fod mor ddrwg;
cafodd eich mam ei hanfon i ffwrdd am eich bod wedi gwrthryfela.
2Pam oedd neb yna pan ddes i?
Pam wnaeth neb ateb pan oeddwn i'n galw?
Ydy fy llaw i'n rhy wan i ryddhau?
Ydw i'n rhy wan i achub?
Edrychwch! Fi wnaeth geryddu'r môr a'i sychu!
Galla i droi afonydd yn anialwch!
Roedd pysgod yn pydru am eu bod heb ddŵr,
wedi marw o syched!
3Galla i wisgo'r awyr mewn du
a'i gorchuddio â sachliain.”

Y Gwas yn dal ati

4Rhoddodd fy Meistr, yr Arglwydd,
dafod i mi siarad ar ei ran;
dw i wedi dysgu sut i gysuro'r blinedig.
Bob bore mae'n fy neffro i,
ac yn fy nghael i wrando
fel mae disgybl yn gwrando ac yn dysgu.
5Mae fy Meistr, yr Arglwydd, wedi fy nysgu i wrando,
a dw i ddim wedi gwrthryfela
na throi fy nghefn arno.
6Rhoddais fy nghefn i'r rhai oedd yn fy chwipio,
a'm gên i'r rhai oedd yn tynnu'r farf.
Wnes i ddim cuddio fy wyneb
oddi wrth yr amarch a'r poeri.
7Mae fy Meistr, yr Arglwydd, yn fy helpu –
felly dw i ddim yn derbyn yr amarch.
Dw i'n gwneud fy wyneb yn galed fel fflint,
a dw i'n gwybod na fydda i'n cywilyddio.
8Mae'r un sy'n fy amddiffyn i wrth ymyl –
Pwy sy'n meiddio ymladd yn fy erbyn?
Gadewch i ni wynebu'n gilydd!
Pwy sydd am fy ngwrthwynebu i?
Gadewch iddo ddod ata i!
9Mae fy Meistr, yr Arglwydd yn fy helpu i –
Pwy sy'n mynd i'm cael yn euog o wneud drwg?
Edrychwch! Byddan nhw'n treulio fel dilledyn;
bydd gwyfyn yn eu difetha nhw.
10Pwy ohonoch sy'n parchu'r Arglwydd?
Pwy sy'n gwrando ar lais ei was? –
Dylai'r sawl sy'n cerdded mewn tywyllwch dudew,
heb olau ganddo o gwbl,
drystio'r Arglwydd
a phwyso ar ei Dduw.
11Ond chi sy'n cynnau'ch tân eich hunain
ac yn paratoi ffaglau –
cerddwch yng ngolau fflam eich tân
a'r ffaglau ydych wedi eu tanio!
Dyma fydd yn dod i chi o'm llaw i:
Byddwch chi'n gorwedd i gael eich poenydio!
Copyright information for CYM